CVCWeb – Gwasanaethau Gwefan CAVS

CVCWeb LogoFe fydd ein gwasanaeth gwefan cost isel yn helpu grwpiau i greu gwefannau sydd:

  • â nifer o dudalennau a dewis o osodiadau a chynlluniau lliw a’u logo eu hunain
  • yn ddwyieithog
  • yn hygyrch
  • yn llawn o nodweddion gwych: orielau lluniau, calendr, fideos, fforwm trafod
  • yn hawdd eu diweddaru gan ddefnyddio system rheoli cynnwys rad ac am ddim.

Fe fydd CVCWeb yn helpu gyda

  • chofrestru enw ar gyfer y wefan
  • cynllunio a sefydlu cynnwys cychwynnol y wefan
  • hyfforddiant ar sut i gynnal y wefan.

COSTAU

  • COSTAU SEFYDLU: o £100-£150 gan ddibynnu ar y nodweddion sydd eu hangen ar gyfer y wefan.
  • COSTAU PARHAUS:
    • Ffi aelodaeth flynyddol CAVS, sef £20
    • Ffi gofrestru flynyddol ar gyfer enw’r wefan (yn daladwy i’r cwmni sy’n lletya’r wefan, £10 y flwyddyn ar gyfartaledd).
  • Elfen ychwanegol y gallwch ei dewis: Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth diweddaru gwefannau am ffi flynyddol/ffi fesul diweddariad. Fe fyddai modd trafod y ffi hon, gan ddibynnu ar y gwaith sydd ei angen. (Mae system rheoli cynnwys y wefan yn hawdd ei defnyddio, a’n nod yw galluogi grwpiau i gynnal eu gwefannau eu hunain.)

Mae CVCWeb hefyd yn gallu helpu gyda phrosiectau cynllunio gwefannau mwy, ac fe fyddai modd trafod ffi unigol.

Mae prosiect amlgyfrwng CVCMedia CAVS yn gallu eich helpu i gasglu cynnwys ffotograffig, sain a fideo ar gyfer eich gwefan. Mae croeso i chi gysylltu ag Alud ar 01267 245555 am eu rhestr brisiau gystadleuol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth, ffoniwch Clare yn CAVS ar 01267 245555, neu e-bostiwch info@cavs.org.uk.

Share